Monday, 14 January 2013

sefydlu academi heddwch yng nghymru


Academi Heddwch Cymru 

Lansio Cynhadledd yn Y Morlan 
Aberystwyth. SY23 2HH
Dydd Sadwrn 23 Mawrth 10yb - 4:30yb 

Y Cadeiryddion 

y Prifardd Mererid Hopwood,  Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant  

Stephen Thomas,  Cynefin y Werin 

Siaradwr 

Jill Evans, ASE, 

Hyrwyddwr Academi Heddwch ers 2008 

Dr Robin Gwyndaf, Cymeithas y Cymod;
Is-lywydd Cymeithas y Cymod; Awdur Rhyfel a Heddwch a Sancteiddrwydd Bywyd 

Athro Jenny Pearce 
 Adran Astudiaethau Heddwch, Prifysgol Bradford.

Prif nod y gynhadeledd hon yw sefydlu ymgyrch ffurfiol dros Academi Heddwch Cymru.

Amcanion y gynhadledd yw:
  • Rhannu gwybodaeth â mynychwyr a’u hysbrydoli ynglŷn â rôl Academi Heddwch Cymru wrth hyrwyddo a chreu diwylliant heddwch yng Nghymru;
  • Gosod y prosiect i sefydlu Academi Heddwch yn gadarn o fewn fframwaith coffáu’r Rhyfel Byd Cynta’ yng Nghymru;
  • Darparu gwybodaeth am yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn wrth baratoi’r tir ar gyfer sefydlu Academi Heddwch;
  • Amlinellu strwythur a rôl Academi Heddwch yng Nghymru;
  • Ethol grŵp llywio i symud prosiect yr Academi Heddwch ymlaen, codi arian, a sefydlu’r Academi yn ffurfiol.

Caiff papurau cefndirol eu postio ar wefan Cynefin y Werin (www.cynefinywerin.com

Er mwyn cofrestru am y gynhadledd neu am wybod mwy amdani cysylltwch â 
cynefinywerin@gmail.com neu Jane Harries: ejharries@hotmail.com / 01656 768910